Ecclesiasticus 39:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Bydd cenhedloedd yn traethu ei ddoethineb,a'r gynulleidfa'n canu ei glod.

11. Os caiff oes hir, bydd yn gadael enw sy'n rhagori ar fil,ac os â i'w orffwys yn gynnar, bydd hynny'n ddigon iddo.

12. Y mae gennyf eto fwy o feddyliau i'w traethu,oherwydd yr wyf mor llawn ohonynt â lleuad ganol mis.

13. Gwrandewch arnaf, chwi feibion sanctaidd, a blagurwchfel rhosyn a blannwyd ar lan afon,

14. yn perarogli fel thus,yn blodeuo fel y lili;taenwch eich persawr a chanwch fawl,bendithiwch yr Arglwydd am ei holl weithredoedd.

15. Mawrygwch ei enw ef,a diolchwch iddo, gan ei foliannu â chaneuon eich gwefusau ac â thelynau.Dyma a ddywedwch i leisio'ch diolchgarwch:

16. “Mor wych yw holl weithredoedd yr Arglwydd!Cyflawnir ei holl orchmynion yn eu pryd.”Ni ddylai neb ofyn, “Beth yw hyn?” neu, “Pam y mae hyn?”Oherwydd y mae pob gwybodaeth i'w cheisio yn ei hiawn bryd.

Ecclesiasticus 39