Ecclesiasticus 38:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Creodd yr Arglwydd o'r ddaear gyffuriau meddygol,ac ni ddirmyga neb call mohonynt.

5. Onid â phren y melyswyd y dŵr,i wneud yn hysbys y rhin oedd iddo?

6. Rhoes ef i bobl wybodaeth,er mwyn cael ei ogoneddu trwy ei ryfeddodau.

7. Trwyddynt hwy y mae meddyg yn iacháu a symud y boen,

8. a'r fferyllydd yr un modd yn cymysgu cyffuriau.Ni cheir diwedd ar weithredoedd yr Arglwydd;oddi wrtho ef y daw heddwch dros wyneb y ddaear.

9. Fy mab, mewn afiechyd, paid â'i ddiystyru,ond gweddïa ar yr Arglwydd, a daw ef i'th iacháu.

10. Ymwrthod â'th fai, uniona dy ddwylo,a glanha dy galon o bob pechod.

Ecclesiasticus 38