Ecclesiasticus 38:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. O'i gyfle i gael hamdden y daw doethineb i rywun o ddysg;y lleiaf ei orchwylion a ddaw'n ddoeth.

25. Sut y gall rhywun ddod yn ddoeth, ac yntau wrth gyrn yr aradr,a'i ymffrost i gyd yn ei fedr â'r wialen,a'i fryd yn llwyr ar ychen, ac ar eugyrru yn eu gwaith,heb fod ganddo unrhyw sgwrs ond am loi teirw?

26. Ar droi cwysi y rhydd ei fryd,a chyll ei gwsg i roi porthiant i'r heffrod.

27. Felly hefyd y mae pob crefftwr a meistr crefftsydd wrth ei waith nos a dydd:y rhai sy'n ysgythru ar seliau,gan ddyfal amrywio'r patrymau;ar gael yr union debygrwydd yn y llun y rhoddant eu bryd,a chollant eu cwsg i orffen y gwaith.

Ecclesiasticus 38