Ecclesiasticus 38:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ymwrthod â'th fai, uniona dy ddwylo,a glanha dy galon o bob pechod.

11. Offryma berarogl a pheilliaid yn offrwm coffadwriaeth,ac aberth bras, y gorau sydd gennyt.

12. Yna, rho gyfle i'r meddyg, oherwydd yr Arglwydd a'i creodd yntau;paid â'i anfon ymaith, oherwydd y mae ei angen arnat.

13. Gall amser ddod pan fydd dy adferiad yn nwylo'r meddygon.

14. Oherwydd fe ddeisyfant hwythau ar yr Arglwyddam lwyddiant i'w hymdrech i leddfu poen,i iacháu'r claf ac achub ei fywyd.

15. A becho yn erbyn ei Greawdwr,rhodder ef yn nwylo meddyg.

Ecclesiasticus 38