Ecclesiasticus 37:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Gall ddweud wrthyt, “Mae'r ffordd yn glir iti”,ac yna sefyll o'r neilltu i weld beth a ddaw ohonot.

10. Paid ag ymgynghori â neb sy'n dy amau,a chuddia dy fwriad rhag y sawl sy'n eiddigeddus ohonot.

11. Paid ag ymgynghori â gwraig ynglŷn â'i chystadleuydd,nac â llwfrgi ynglŷn â rhyfel,nac â masnachwr ynglŷn â'i brisiau,nac â phrynwr ynglŷn â gwerthu,nac â'r crintachlyd ynglŷn â diolchgarwch,nac â'r angharedig ynglŷn â chymwynasgarwch,nac â diogyn ynglŷn â gwaith o unrhyw fath,nac â gwas a gyflogir wrth yr awr am orffen y gwaith,nac â gwas diog ynglŷn ag unrhyw orchwyl mawr;paid â gwrando ar gyngor y rhain ar unrhyw fater.

12. Ond yn hytrach bydd ddyfal yn ceisio cyngor y duwioly gwyddost ei fod yn cadw'r gorchmynion,un sydd o'r un anian â thydi dy hun.Cei gydymdeimlad hwnnw os digwydd iti faglu.

13. Glŷn wrth gyngor dy feddwl dy hun,gan na chei ddim y gelli ymddiried mwy ynddo.

14. Oherwydd gall ymwybyddiaeth rhywun weithiau ddweud mwy wrthona saith o wylwyr yn eistedd fry mewn tŵr gwylio.

15. Uwchlaw'r cwbl deisyf ar y Goruchaf,iddo ef dy gyfarwyddo ar hyd ffordd gwirionedd.

16. Dechrau pob gwaith yw ei drafod,ac yn blaenori ar bob ymgymeriad y mae ymgynghori.

17. Y mae newid yn y meddwl

Ecclesiasticus 37