Ecclesiasticus 37:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ond yn hytrach bydd ddyfal yn ceisio cyngor y duwioly gwyddost ei fod yn cadw'r gorchmynion,un sydd o'r un anian â thydi dy hun.Cei gydymdeimlad hwnnw os digwydd iti faglu.

13. Glŷn wrth gyngor dy feddwl dy hun,gan na chei ddim y gelli ymddiried mwy ynddo.

14. Oherwydd gall ymwybyddiaeth rhywun weithiau ddweud mwy wrthona saith o wylwyr yn eistedd fry mewn tŵr gwylio.

15. Uwchlaw'r cwbl deisyf ar y Goruchaf,iddo ef dy gyfarwyddo ar hyd ffordd gwirionedd.

16. Dechrau pob gwaith yw ei drafod,ac yn blaenori ar bob ymgymeriad y mae ymgynghori.

17. Y mae newid yn y meddwl

18. yn dilyn pedwar tro ar fyd—da a drwg, bywyd a marwolaeth—a'r tafod sy'n eu rheoli bob un yn wastadol.

19. Gall rhywun fod yn amryddawn ac yn athro i lawer,ac eto fod yn anfuddiol iddo ef ei hun.

Ecclesiasticus 37