Ecclesiasticus 36:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Gad i dân dy ddigofaint ysu'r neb a gais ddianc,ac i golledigaeth oddiweddyd gorthrymwyr dy bobl.

10. Dryllia bennau tywysogion ein gelynion,sy'n dweud, “Nid oes neb ond nyni.”

11. Cynnull ynghyd holl lwythau Jacob,a chymer hwy'n etifeddiaeth iti, fel y gwnaethost gynt.

12. Trugarha, Arglwydd, wrth y bobl a elwir wrth dy enw,wrth Israel, a gymeraist fel dy gyntafanedig.

13. Tosturia wrth ddinas dy gysegr,wrth Jerwsalem, dy orffwysfa.

14. Llanw Seion â'th folianta'th bobl â'th ogoniant.

15. Arddel yn awr y rhai a greaist yn y dechreuad,a chyflawna'r proffwydoliaethau a gyhoeddwyd yn dy enw.

16. Gwobrwya'r rhai sy'n disgwyl wrthyt,a chaffer dy broffwydi yn eirwir.

Ecclesiasticus 36