7. Deffro dy lid a thywallt dy ddigofaint;difroda dy wrthwynebwyr a difa dy elyn.
8. Prysura'r dydd a chofia dy lw; a phâr i bobl draethu dy fawrion weithredoedd.
9. Gad i dân dy ddigofaint ysu'r neb a gais ddianc,ac i golledigaeth oddiweddyd gorthrymwyr dy bobl.
10. Dryllia bennau tywysogion ein gelynion,sy'n dweud, “Nid oes neb ond nyni.”
11. Cynnull ynghyd holl lwythau Jacob,a chymer hwy'n etifeddiaeth iti, fel y gwnaethost gynt.
12. Trugarha, Arglwydd, wrth y bobl a elwir wrth dy enw,wrth Israel, a gymeraist fel dy gyntafanedig.
13. Tosturia wrth ddinas dy gysegr,wrth Jerwsalem, dy orffwysfa.
14. Llanw Seion â'th folianta'th bobl â'th ogoniant.
15. Arddel yn awr y rhai a greaist yn y dechreuad,a chyflawna'r proffwydoliaethau a gyhoeddwyd yn dy enw.
16. Gwobrwya'r rhai sy'n disgwyl wrthyt,a chaffer dy broffwydi yn eirwir.
17. Clyw, Arglwydd, weddi'r rhai sy'n ymbil arnat,yn ôl bendith Aaron i'th bobl.Yna caiff pawb sydd ar y ddaear wybodmai ti yw'r Arglwydd, y Duw tragwyddol.