Ecclesiasticus 35:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae'r sawl sy'n cadw'r gyfraith eisoes yn amlhau offrymau,a'r sawl sy'n glynu wrth y gorchmynion eisoes yn aberthu heddoffrwm.

2. Y mae'r sawl sy'n talu cymwynas yn ôl yn offrymu peilliaid,a'r sawl sy'n rhoi elusen yn offrymu aberth moliant.

3. Y mae cefnu ar ddrygioni yn rhyngu bodd yr Arglwydd,a chefnu ar anghyfiawnder yn ennill maddeuant ganddo.

4. Paid ag ymddangos gerbron yr Arglwydd yn waglaw;

5. oherwydd gwneir y pethau hyn oll er mwyn cadw'r gorchymyn.

6. Y mae offrwm y cyfiawn yn eneinio'r allor,a'i arogl pêr yn dod gerbron y Goruchaf.

Ecclesiasticus 35