Ecclesiasticus 33:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Dyma sut yr wyt i edrych ar holl weithredoedd y Goruchaf:yn ddau a dau, a'r naill yn wrthwyneb i'r llall.

16. Myfi oedd yr olaf i ddeffro;yr oeddwn fel lloffwr yn dilyn y cynaeafwyr.Dan fendith yr Arglwydd achubais y blaen,a llenwi fy ngwinwryf fel cynaeafwr grawnwin.

17. Cofiwch nad trosof fy hunan yn unig y llafuriais,ond dros bawb sy'n ceisio addysg.

18. Gwrandewch arnaf, bendefigion y bobl,a chwi lywodraethwyr y gynulleidfa, trowch eich clust ataf.

19. Boed fab neu wraig, boed frawd neu gyfaill,paid â rhoi i neb awdurdod arnat tra byddi byw.A phaid â rhoi dy feddiannau i arall,rhag ofn iti edifarhau a gorfod ymbil amdanynt yn ôl.

20. Tra bydd bywyd ac anadl yn dal ynot,paid â newid dy le â neb byw.

21. Y mae'n well fod dy blant yn ymbil arnat tina'th fod ti'n gorfod disgwyl wrthynt hwy.

Ecclesiasticus 33