Ecclesiasticus 32:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Os ifanc wyt, llefara'n unig os bydd rhaid,a dwywaith ar y mwyaf, oni ofynnir cwestiwn iti.

8. Bydd yn gryno, gan ddweud llawer mewn ychydig;bydd fel un sy'n gwybod, ac eto'n gallu tewi.

9. Yng nghwmni mawrion, paid â chystadlu â hwy,a pharablu llawer pan fydd rhywun arall yn siarad.

10. Y mae mellt yn fflachio o flaen y daran,a chymeradwyaeth yn rhagflaenu rhywun gwylaidd.

11. Cod i ymadael yn brydlon; paid â bod yn olaf;brysia adref yn ddiymdroi.

12. Yno cei ymlacio a gwneud a fynni,heb bechu trwy siarad balch.

13. Ac at hyn oll, bendithia dy Greawdwr,a lanwodd dy gwpan â'i roddion daionus.

14. Bydd y sawl sy'n ofni'r Arglwydd yn derbyn ei ddisgyblaeth,a'r rhai sy'n codi'n fore i'w geisio yn ennill ei ffafr.

15. Bydd y sawl sy'n rhoi ei fryd ar y gyfraith yn cael boddhad ynddi,ond achos cwymp fydd hi i'r rhagrithiwr.

16. Bydd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd yn gallu barnu'n deg,a bydd eu gweithredoedd cyfiawn yn llewyrchu fel goleuni.

Ecclesiasticus 32