Ecclesiasticus 32:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. insel o emrallt mewn addurn o auryw nodau cân wrth flasu melyster y gwin.

7. Os ifanc wyt, llefara'n unig os bydd rhaid,a dwywaith ar y mwyaf, oni ofynnir cwestiwn iti.

8. Bydd yn gryno, gan ddweud llawer mewn ychydig;bydd fel un sy'n gwybod, ac eto'n gallu tewi.

9. Yng nghwmni mawrion, paid â chystadlu â hwy,a pharablu llawer pan fydd rhywun arall yn siarad.

10. Y mae mellt yn fflachio o flaen y daran,a chymeradwyaeth yn rhagflaenu rhywun gwylaidd.

11. Cod i ymadael yn brydlon; paid â bod yn olaf;brysia adref yn ddiymdroi.

12. Yno cei ymlacio a gwneud a fynni,heb bechu trwy siarad balch.

Ecclesiasticus 32