Ecclesiasticus 31:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Y mae'r cyfoethog yn llafurio i gasglu golud,a phan beidia, bydd ganddo gyflawnder o foethau.

4. Y mae'r tlawd yn llafurio i grafu bywoliaeth brin,a phan beidia, bydd mewn angen.

5. A gâr aur, nis cyfrifir yn gyfiawn;a gais elw, nid union fydd ei lwybr.

6. Daeth llawer i'w cwymp o achos aur,a'u cael eu hunain wyneb yn wyneb â dinistr.

7. Magl ydyw i'r rhai a swynir ganddo,a chaiff pob ffŵl ei ddal ynddi.

8. Gwyn ei fyd y cyfoethog na chafwyd bai ynddo,ac na wnaeth aur yn ddiben ei fyw.

Ecclesiasticus 31