Ecclesiasticus 31:21-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Os cefaist dy orfodi i orfwyta,gad y pryd ar ei ganol i geisio rhyddhad.

22. Gwrando arnaf, fy mab, a phaid â'm hanwybyddu;yn y diwedd cei wybod mai gwir yw fy ngeiriau.Bydd ymroddgar ym mhopeth a wnei,ac ni ddaw unrhyw afiechyd ar dy gyfyl.

23. Hael ei fwrdd, hael fydd ei glod,a'r dystiolaeth i'w ragoriaeth yn sicr.

24. Crintach ei fwrdd, bydd grwgnach trwy'r dref amdano,a'r dystiolaeth i'w grintachrwydd yn fanwl.

25. Paid ag ymwroli â gwin,oherwydd distryw fu gwin i lawer.

26. Fel y profir dur gan ffwrn a dŵr,felly y profir cymeriad gan win pan fydd beilchion yn ymryson.

Ecclesiasticus 31