Ecclesiasticus 30:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Y mae'n gweld â'i lygaid ac yn griddfan,griddfan fel y bydd eunuch wrth gofleidio gwyryf.

21. Paid ag ymollwng i dristwch,nac ymgystuddio o'th wirfodd.

22. Y mae llonder calon yn fywyd i rywun,a gorfoledd rhywun yn estyn ei ddyddiau.

23. Difyrra dy hun a diddana dy galon,a chadw dristwch ymhell oddi wrthyt;oherwydd bu tristwch yn angau i lawer,ac ni ddaw unrhyw fudd ohono.

Ecclesiasticus 30