Ecclesiasticus 30:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Bydd dyn sy'n disgyblu ei fab yn cael budd ohono,a chaiff ymffrostio ynddo ymhlith ei gydnabod.

3. Bydd dyn a rydd addysg i'w fab yn deffro eiddigedd ei elyn,a chaiff ymfalchïo ynddo yng ngŵydd ei gyfeillion.

4. Pan fydd y tad wedi marw, bydd fel petai heb farw,gan iddo adael ei debyg ar ei ôl.

5. Yn ei fywyd fe'i gwelodd a llawenychu ynddo,ac yn ei farw ni phrofodd dristwch.

6. Gadawodd etifedd i ddial ar ei elynionac i dalu'n ôl garedigrwydd ei gyfeillion.

7. Bydd dyn sy'n maldodi ei fab yn rhwymo'i friwiau i gyd,a bydd ei deimladau mewn cynnwrf wrth bob cri.

Ecclesiasticus 30