Ecclesiasticus 30:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Gwell bod yn dlwad ac iach a chryf o gyfansoddiadna bod yn gyfoethog a chystuddiedig o gorff.

15. Y mae iechyd a chyfansoddiad cryf yn well na'r aur i gyd,a chorff nerthol na golud difesur.

16. Nid oes cyfoeth gwell na iechyd corffna llonder llawnach na llawenydd calon.

17. Gwell marwolaeth na bywyd o drueni,a gorffwys tragwyddol nag afiechyd sy'n parhau.

18. Y mae tywallt danteithion gerbron rhywun a'i geg wedi ei chaufel gosod offrymau o fwyd ar fedd.

19. Pa les yw offrwm i eilun,ac yntau heb allu blasu nac arogli dim?Dyna gyflwr y sawl a gystuddir gan yr Arglwydd.

Ecclesiasticus 30