Ecclesiasticus 30:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Plyga'i war ef yn ei ieuenctid,a phwnio'i asennau pan yw'n blentyn,rhag iddo fynd yn anhydrin ac anufudd,a pheri gofid iti.

13. Disgybla dy fab, a chymer drafferth ag ef,rhag i'w ymddygiad anweddus fod yn dramgwydd iti.

14. Gwell bod yn dlwad ac iach a chryf o gyfansoddiadna bod yn gyfoethog a chystuddiedig o gorff.

15. Y mae iechyd a chyfansoddiad cryf yn well na'r aur i gyd,a chorff nerthol na golud difesur.

16. Nid oes cyfoeth gwell na iechyd corffna llonder llawnach na llawenydd calon.

17. Gwell marwolaeth na bywyd o drueni,a gorffwys tragwyddol nag afiechyd sy'n parhau.

18. Y mae tywallt danteithion gerbron rhywun a'i geg wedi ei chaufel gosod offrymau o fwyd ar fedd.

Ecclesiasticus 30