Ecclesiasticus 3:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Oherwydd bendith tad sy'n rhoi cadernid i gartrefi'r plant,ond y mae melltith mam yn tanseilio'u sylfeini.

10. Paid â cheisio clod i ti dy hun ar draul anfri dy dad,canys nid clod i ti yw anfri dy dad.

11. Oherwydd daw clod i ddyn o'r bri a roddir i'w dad,a gwarth i blant yw anghlod eu mam.

12. Fy mab, cynorthwya dy dad yn ei henaint,a phaid â'i dristáu tra bydd ef byw.

Ecclesiasticus 3