Ecclesiasticus 3:14-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Oherwydd nid anghofir caredigrwydd i dad;fe'i codir yn gaer o'th gylch rhag cosb dy bechodau.

15. Yn nydd dy gyfyngder fe gofir amdano o'th blaid,a diflanna dy bechodau fel barrug dan heulwen.

16. Yr hwn sy'n cefnu ar ei dad, nid yw namyn cablwr,a'r hwn sy'n cythruddo'i fam, dan felltith yr Arglwydd y mae.

17. Fy mab, dos ymlaen â'th waith yn wylaidd,ac fe'th gerir gan y rhai sy'n gymeradwy gan Dduw.

18. Po fwyaf yr wyt, mwyaf y dylit dy ddarostwng dy hun;a chei ffafr gan yr Arglwydd.

20. Oherwydd mawr yw gallu'r Arglwydd,ac fe'i gogoneddir gan y rhai gostyngedig.

Ecclesiasticus 3