Ecclesiasticus 28:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Cofia'r diwedd sy'n dy aros, a gad lonydd i elyniaeth;cofia dy dranc a'th farwolaeth, a glŷn wrth y gorchmynion.

7. Cofia'r gorchmynion, a phaid â bwrw dy lid ar dy gymydog;cofia gyfamod y Goruchaf, ac edrych heibio i anwybodaeth.

8. Ymgadw rhag cweryla, a byddi'n llai dy bechod,oherwydd bydd y gwyllt ei dymer yn ennyn cweryl,

9. a'r pechadurus yn creu helynt rhwng cyfeillion,ac yn tarfu ar bobl heddychlon â'i ensyniadau enllibus.

10. Yn ôl y tanwydd a roir arno y llosga'r tân,ac yn ôl poethder y cweryl y llosga'i fflam yntau;yn ôl ei nerth y bydd llidiogrwydd rhywun,ac yn ôl ei gyfoeth y cwyd ei ddicter.

Ecclesiasticus 28