Ecclesiasticus 28:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Os yw ef, nad yw ond cnawd dynol, yn meithrin llid,pwy a rydd iddo buredigaeth ei bechodau?

6. Cofia'r diwedd sy'n dy aros, a gad lonydd i elyniaeth;cofia dy dranc a'th farwolaeth, a glŷn wrth y gorchmynion.

7. Cofia'r gorchmynion, a phaid â bwrw dy lid ar dy gymydog;cofia gyfamod y Goruchaf, ac edrych heibio i anwybodaeth.

8. Ymgadw rhag cweryla, a byddi'n llai dy bechod,oherwydd bydd y gwyllt ei dymer yn ennyn cweryl,

9. a'r pechadurus yn creu helynt rhwng cyfeillion,ac yn tarfu ar bobl heddychlon â'i ensyniadau enllibus.

Ecclesiasticus 28