Ecclesiasticus 28:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Y mae llach ffrewyll yn gadael clais,ond y mae llach tafod yn torri esgyrn.

18. Cwympodd llawer gan fin y cleddyf,ond nid cynifer ag a gwympodd o achos y tafod.

19. Gwyn ei fyd y sawl a gafodd noddfa rhagddo,ac na phrofodd erwinder ei lid;y sawl na wingodd dan ei iau,na'i gael ei hun yn rhwymyn ei gadwyni.

20. Oherwydd iau'r tafod, iau o haearn yw,a chadwyni o bres yw ei gadwyni.

21. Marwolaeth erchyll yw'r farwolaeth a geir ganddo;dewisach yw Trigfan y Meirw na'r tafod.

22. Ni chaiff wastrodaeth ar y rhai duwiol,ac ni losgir hwy gan ei fflam.

23. Y rhai sy'n cefnu ar yr Arglwydd a fyddant yn ysglyfaeth y tafod;bydd yn llosgi'n anniffodd yn eu plith.Gollyngir ef arnynt fel llew,ac fe'u llarpia fel llewpart.

24. Gofala gau dy dir â gwrych o ddrain,a chlo dy arian a'th aur yn ddiogel;

Ecclesiasticus 28