Ecclesiasticus 28:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Melltithiwch y clepgi a'r dyblyg ei dafod,oherwydd dinistriodd ef lawer o bobl heddychlon.

14. Y mae trydydd tafod wedi tarfu ar lawer,a'u hymlid o genedl i genedl,gan ddifrodi dinasoedd caeroga dymchwelyd tai y mawrion.

15. Y mae trydydd tafod wedi gyrru gwragedd priod o'u cartrefi,a'u hamddifadu o ffrwyth eu llafur.

16. A rydd goel arno, ni bydd gorffwys iddo mwy,na thawelwch yn ei drigle.

17. Y mae llach ffrewyll yn gadael clais,ond y mae llach tafod yn torri esgyrn.

Ecclesiasticus 28