Ecclesiasticus 28:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Chwytha ar wreichionen, a gloywi a wna;poera arni, ac fe ddiffydd;o'th enau di y daw'r ddeubeth.

13. Melltithiwch y clepgi a'r dyblyg ei dafod,oherwydd dinistriodd ef lawer o bobl heddychlon.

14. Y mae trydydd tafod wedi tarfu ar lawer,a'u hymlid o genedl i genedl,gan ddifrodi dinasoedd caeroga dymchwelyd tai y mawrion.

15. Y mae trydydd tafod wedi gyrru gwragedd priod o'u cartrefi,a'u hamddifadu o ffrwyth eu llafur.

Ecclesiasticus 28