Ecclesiasticus 27:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y mae'r ffwrn yn profi llestri'r crochenydd,a cheir prawf ar rywun wrth iddo ymresymu.

6. Fel y mae ffrwyth pren yn dangos y driniaeth a gafodd,felly y mae mynegiant rhywun o'i feddyliau yn dangos ei ddiwylliant.

7. Paid â chanmol neb cyn ei glywed yn dadlau,oherwydd dyna'r prawf ar bawb.

8. O geisio cyfiawnder, fe'i cei,a'i wisgo fel gŵn ysblennydd.

9. Bydd adar yn nythu gyda'u tebyg,a bydd gwirionedd yn clwydo gyda'r rhai sy'n ei weithredu.

Ecclesiasticus 27