Ecclesiasticus 26:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Rhag tri pheth y brawychodd fy nghalon,ac y mae pedwerydd yr wyf yn dychryn rhag ei weddenllib dinas, cynulliad torf,a gaudystiolaeth—pethau blin, gwaeth nag angau, bob un.

6. Gofid calon a thrallod yw cenfigen gwraig wrth wraig arall,a llach ei thafod ar bawb yn ddiwahân.

7. Y mae gwraig faleisus fel iau anesmwyth,a dal gafael ynddi fel cydio mewn ysgorpion.

8. Peri dicter mawr y mae gwraig feddw;ni all guddio'i gwarth ei hun.

9. Y mae puteindra gwraig i'w weld yn ehofndra'i llygaid,ac i'w ganfod yn ei hamrannau.

10. Cadw wyliadwriaeth gyson ar ferch anhydrin,rhag iddi fanteisio ar dy ddiofalwch er ei niwed ei hun.

Ecclesiasticus 26