Ecclesiasticus 26:11-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Gwylia am ei hedrychiad digywilydd,a phaid â rhyfeddu os tramgwydda yn dy erbyn.

12. Bydd yn agor ei cheg fel teithiwr sychedig,ac yn yfed o bob rhyw ddŵr sydd wrth law;bydd yn eistedd gyferbyn â phob rhyw fachyn,ac yn agor ei chawell i bob rhyw saeth.

13. Y mae swyn gwraig yn llonni ei gŵr,a'i medr yn rhoi cnawd ar ei esgyrn.

14. Rhodd gan yr Arglwydd yw gwraig ddistaw,a'i henaid disgybledig yn amhrisiadwy.

15. Swyn ar ben swyn yw gwraig wylaidd,a'i henaid diwair yn ddifesur ei werth.

16. Fel haul yn codi yn uchelderau'r Arglwydd,y mae prydferthwch gwraig dda yn harddu ei thŷ;

17. fel lamp yn llewyrchu ar ganhwyllbren sanctaidd,y mae prydferthwch ei hwyneb ar gorff aeddfed.

18. Fel colofnau aur ar waelod arian,felly mae traed lluniaidd a'u sodlau cadarn.

28. Dau beth sy'n peri loes i'm calon,a thrydydd peth yn codi fy ngwrychyn:milwr mewn angen o achos tlodi;rhai deallus yn cael eu trin fel baw;a rhywun yn cefnu ar gyfiawnder i ddilyn pechod—fe ddarpara'r Arglwydd i un felly gleddyf i'w ladd.

29. Go brin y gall masnachwr osgoi gwneud cam,ac ni cheir siopwr yn ddieuog o bechod.

Ecclesiasticus 26