Ecclesiasticus 26:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwraig dda yw gwynfyd ei gŵr,yn dyblu nifer ei ddyddiau.

2. Gwraig lew yw llawenydd ei gŵr,yn llenwi ei flynyddoedd â heddwch.

3. Gwraig dda, y mae'n gyfran dda,y gyfran a roddir i'r rhai sy'n ofni'r Arglwydd;

4. yn gyfoethog neu'n dlawd, bydd eu calon yn llona'u hwyneb bob amser yn siriol.

5. Rhag tri pheth y brawychodd fy nghalon,ac y mae pedwerydd yr wyf yn dychryn rhag ei weddenllib dinas, cynulliad torf,a gaudystiolaeth—pethau blin, gwaeth nag angau, bob un.

6. Gofid calon a thrallod yw cenfigen gwraig wrth wraig arall,a llach ei thafod ar bawb yn ddiwahân.

Ecclesiasticus 26