Ecclesiasticus 25:11-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Y mae ofn yr Arglwydd yn rhagori ar bopeth;pwy sydd i'w gymharu â'r sawl sydd â'i afael arno?

13. Unrhyw glwyf ond clwyf i'r galon!Unrhyw falais ond malais gwraig!

14. Unrhyw aflwydd ond aflwydd o du caseion!Unrhyw ddial ond dial gelynion!

15. Nid oes gwenwyn gwaeth na gwenwyn sarff,na llid gwaeth na llid gelyn.

16. Dewisach gennyf gartrefu gyda llew neu ddraigna chartrefu gyda gwraig faleisus.

17. Y mae malais gwraig yn newid ei gwedd,a duo'i hwyneb fel wyneb arth.

18. Gyda'i gymdogion y bydd ei gŵr yn cymryd ei brydau,ac yn methu peidio ag ochneidio'n ddwys.

19. Bach yw pob drygioni yn ymyl drygioni gwraig;syrthied iddi gyfran pechadur!

20. Fel dringo twyn tywod i draed hynafgwryw byw gyda gwraig dafotrydd i ŵr tawel.

21. Paid â syrthio'n ysglyfaeth i brydferthwch gwraig,na rhoi dy fryd ar feddiannu gwraig.

22. Dicter, hyfdra ac amarch mawrfydd rhan gŵr os ei wraig sy'n ei gynnal.

23. Iselder ysbryd, gwedd wynepdrist,a chalon glwyfus a rydd gwraig faleisus;dwylo llesg a gliniau gwanfydd i'r gŵr nad yw ei wraig yn achos gwynfyd iddo.

24. O wraig y tarddodd pechod,ac o'i hachos hi yr ydym oll yn marw.

Ecclesiasticus 25