Ecclesiasticus 24:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Ymhlith y rhain i gyd ceisiais orffwysfa;yn nhiriogaeth p'run ohonynt y gwnawn fy nhrigfan?

8. Yna rhoes Creawdwr y cyfanfyd orchymyn imi;gosododd fy Nghrëwr fy mhabell yn ei lle.‘Gosod,’ meddai, ‘dy babell yn Jacob,a myn dy etifeddiaeth yn Israel.’

9. O'r dechreuad, cyn bod y byd, y creodd fi,a hyd y diwedd ni bydd darfod arnaf ddim.

10. Yn y tabernacl sanctaidd bûm yn gweini ger ei fron,ac felly fe'm sefydlwyd yn Seion.

11. Dyma sut y gwnaeth imi orffwys yn y ddinas sy'n annwyl ganddo,ac y daeth imi awdurdod yn Jerwsalem.

12. Bwriais fy ngwreiddiau ymhlith pobl freintiedig,pobl sy'n gyfran yr Arglwydd ac yn etifeddiaeth iddo.

13. Tyfais fel cedrwydden yn Lebanonac fel cypreswydden ar lethrau Hermon;

Ecclesiasticus 24