Ecclesiasticus 24:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. “Dyfrhaf fy ngardd,” meddwn,“a diodaf ei gwelyau hi.”A dyna'r gamlas yn troi'n afon imi,a'm hafon yn troi'n fôr.

32. Paraf eto i addysg oleuo fel y wawr,ac i'w goleuni ddisgleirio ymhell.

33. Tywalltaf eto athrawiaeth fel proffwydoliaeth,a'i gadael ar fy ôl i genedlaethau'r dyfodol.

34. Gwelwch nad trosof fy hunan yn unig y llafuriais,ond dros bawb sy'n ceisio doethineb.

Ecclesiasticus 24