Ecclesiasticus 24:30-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Minnau, fel camlas yn llifo o afony deuthum allan, fel ffrwd yn rhedeg i ardd.

31. “Dyfrhaf fy ngardd,” meddwn,“a diodaf ei gwelyau hi.”A dyna'r gamlas yn troi'n afon imi,a'm hafon yn troi'n fôr.

32. Paraf eto i addysg oleuo fel y wawr,ac i'w goleuni ddisgleirio ymhell.

33. Tywalltaf eto athrawiaeth fel proffwydoliaeth,a'i gadael ar fy ôl i genedlaethau'r dyfodol.

34. Gwelwch nad trosof fy hunan yn unig y llafuriais,ond dros bawb sy'n ceisio doethineb.

Ecclesiasticus 24