3. “Myfi yw'r gair o enau'r Goruchaf,a gorchuddiais y ddaear fel niwl.
4. Myfi a osodais fy mhabell yn yr uchelderau,ac y mae fy ngorsedd mewn colofn o gwmwl.
5. Amgylchais gylch y nefoedd fy hunan,a thramwyais y dyfnderau diwaelod.
6. Ar donnau'r môr ac ar yr holl ddaear,ac ar bob pobl a chenedl, enillais feddiant.
7. Ymhlith y rhain i gyd ceisiais orffwysfa;yn nhiriogaeth p'run ohonynt y gwnawn fy nhrigfan?
8. Yna rhoes Creawdwr y cyfanfyd orchymyn imi;gosododd fy Nghrëwr fy mhabell yn ei lle.‘Gosod,’ meddai, ‘dy babell yn Jacob,a myn dy etifeddiaeth yn Israel.’
9. O'r dechreuad, cyn bod y byd, y creodd fi,a hyd y diwedd ni bydd darfod arnaf ddim.
10. Yn y tabernacl sanctaidd bûm yn gweini ger ei fron,ac felly fe'm sefydlwyd yn Seion.
11. Dyma sut y gwnaeth imi orffwys yn y ddinas sy'n annwyl ganddo,ac y daeth imi awdurdod yn Jerwsalem.
12. Bwriais fy ngwreiddiau ymhlith pobl freintiedig,pobl sy'n gyfran yr Arglwydd ac yn etifeddiaeth iddo.
13. Tyfais fel cedrwydden yn Lebanonac fel cypreswydden ar lethrau Hermon;
14. tyfais fel palmwydden yn En-gedi,ac fel prennau rhosod yn Jericho;fel olewydden hardd ar wastatiry tyfais, neu fel planwydden.
15. Fel sinamon ac aspalathus rhoddais sawr perlysiau,ac fel myrr dethol taenais fy mherarogl,fel galbanum ac onyx a stacte,ac fel arogldarth thus yn y tabernacl.
16. Estynnais i fy nghanghennau fel terebinth;canghennau llwythog o ogoniant a gras oedd fy rhai i.
17. Blagurais yn haelwych fel y winwydden;a daeth llawnder o ffrwyth gogoneddus o'm blodau.
19. Dewch ataf fi, chwi sy'n blysio amdanaf,a bwytewch eich gwala o'm ffrwythau.
20. Cofio amdanaf sy'n well na melyster mêl,a'm hetifeddu'n well na dil mêl.