19. Dewch ataf fi, chwi sy'n blysio amdanaf,a bwytewch eich gwala o'm ffrwythau.
20. Cofio amdanaf sy'n well na melyster mêl,a'm hetifeddu'n well na dil mêl.
21. Y rhai a ymborthant arnaf, newynu am fwy y byddant,a'r rhai a yfant ohonof, sychedu am fwy y byddant.
22. Ni bydd cywilydd ar neb a fydd yn ufudd i mi,ac ni phecha neb a fydd yn gweithio dan fy nghyfarwyddyd.”
23. Llyfr cyfamod y Duw Goruchaf yw hyn oll,y gyfraith a orchmynnodd Moses i ni,i fod yn etifeddiaeth i gynulleidfaoedd Jacob.
25. Y mae'n peri i ddoethineb orlifo fel Afon Phison,ac fel Afon Tigris yn nyddiau'r blaenffrwyth;
26. y mae'n chwyddo dealltwriaeth yn llifeiriant fel Afon Ewffrates,ac fel yr Iorddonen yn nyddiau'r cynhaeaf;
27. y mae'n peri i addysg ddisgleirio fel goleuni,ac fel Gihon yn nyddiau'r cynhaeaf gwin.
28. Ni lwyddodd y dyn cyntaf i'w llwyr amgyffred,na'r olaf chwaith i'w holrhain hi.