Ecclesiasticus 24:17-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Blagurais yn haelwych fel y winwydden;a daeth llawnder o ffrwyth gogoneddus o'm blodau.

19. Dewch ataf fi, chwi sy'n blysio amdanaf,a bwytewch eich gwala o'm ffrwythau.

20. Cofio amdanaf sy'n well na melyster mêl,a'm hetifeddu'n well na dil mêl.

21. Y rhai a ymborthant arnaf, newynu am fwy y byddant,a'r rhai a yfant ohonof, sychedu am fwy y byddant.

22. Ni bydd cywilydd ar neb a fydd yn ufudd i mi,ac ni phecha neb a fydd yn gweithio dan fy nghyfarwyddyd.”

23. Llyfr cyfamod y Duw Goruchaf yw hyn oll,y gyfraith a orchmynnodd Moses i ni,i fod yn etifeddiaeth i gynulleidfaoedd Jacob.

Ecclesiasticus 24