15. Fel sinamon ac aspalathus rhoddais sawr perlysiau,ac fel myrr dethol taenais fy mherarogl,fel galbanum ac onyx a stacte,ac fel arogldarth thus yn y tabernacl.
16. Estynnais i fy nghanghennau fel terebinth;canghennau llwythog o ogoniant a gras oedd fy rhai i.
17. Blagurais yn haelwych fel y winwydden;a daeth llawnder o ffrwyth gogoneddus o'm blodau.
19. Dewch ataf fi, chwi sy'n blysio amdanaf,a bwytewch eich gwala o'm ffrwythau.
20. Cofio amdanaf sy'n well na melyster mêl,a'm hetifeddu'n well na dil mêl.
21. Y rhai a ymborthant arnaf, newynu am fwy y byddant,a'r rhai a yfant ohonof, sychedu am fwy y byddant.
22. Ni bydd cywilydd ar neb a fydd yn ufudd i mi,ac ni phecha neb a fydd yn gweithio dan fy nghyfarwyddyd.”