Ecclesiasticus 24:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Bwriais fy ngwreiddiau ymhlith pobl freintiedig,pobl sy'n gyfran yr Arglwydd ac yn etifeddiaeth iddo.

13. Tyfais fel cedrwydden yn Lebanonac fel cypreswydden ar lethrau Hermon;

14. tyfais fel palmwydden yn En-gedi,ac fel prennau rhosod yn Jericho;fel olewydden hardd ar wastatiry tyfais, neu fel planwydden.

Ecclesiasticus 24