Ecclesiasticus 24:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma fydd molawd doethineb iddi ei hunan,a'i hymffrost ymhlith ei phobl;

2. dyma eiriau ei genau yng nghynulleidfa'r Goruchaf,a'i hymffrost yng ngŵydd ei lu nefol:

3. “Myfi yw'r gair o enau'r Goruchaf,a gorchuddiais y ddaear fel niwl.

4. Myfi a osodais fy mhabell yn yr uchelderau,ac y mae fy ngorsedd mewn colofn o gwmwl.

5. Amgylchais gylch y nefoedd fy hunan,a thramwyais y dyfnderau diwaelod.

6. Ar donnau'r môr ac ar yr holl ddaear,ac ar bob pobl a chenedl, enillais feddiant.

7. Ymhlith y rhain i gyd ceisiais orffwysfa;yn nhiriogaeth p'run ohonynt y gwnawn fy nhrigfan?

8. Yna rhoes Creawdwr y cyfanfyd orchymyn imi;gosododd fy Nghrëwr fy mhabell yn ei lle.‘Gosod,’ meddai, ‘dy babell yn Jacob,a myn dy etifeddiaeth yn Israel.’

Ecclesiasticus 24