Ecclesiasticus 23:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Felly y bydd hefyd i'r wraig a adawodd ei gŵrac a ddug etifedd o had dyn arall.

23. Oherwydd, yn gyntaf, bu'n anufudd i gyfraith y Goruchaf;yn ail, troseddodd yn erbyn ei gŵr;yn drydydd, godinebodd fel putain,gan ddwyn plant o had dyn arall.

24. Dygir y wraig hon allan gerbron y cynulliad,a bydd ymchwiliad ynglŷn â'i phlant hi.

25. Nid ymleda gwreiddiau ei phlant,ac ni ddwg ei changhennau ffrwyth.

26. Melltith fydd y goffadwriaeth y bydd hi'n ei gadael,ac ni ddileir ei gwaradwydd;

Ecclesiasticus 23