Ecclesiasticus 23:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Yr oedd y cyfanfyd yn hysbys iddo er cyn ei greu,fel y mae hefyd ar ôl ei gwblhau.

21. Bydd y dyn hwn yn dwyn ei gosb yn heolydd y ddinas,a chaiff ei ddal mewn man na ddisgwyliodd erioed.

22. Felly y bydd hefyd i'r wraig a adawodd ei gŵrac a ddug etifedd o had dyn arall.

23. Oherwydd, yn gyntaf, bu'n anufudd i gyfraith y Goruchaf;yn ail, troseddodd yn erbyn ei gŵr;yn drydydd, godinebodd fel putain,gan ddwyn plant o had dyn arall.

Ecclesiasticus 23