Ecclesiasticus 23:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Y mae'r dyn sy'n sleifio o'i wely ei hunyn dweud wrtho'i hun, “Pwy sy'n fy ngweld?Y mae'n dywyll o'm hamgylch, a'r muriau'n fy nghuddio,ac ni all neb fy ngweld. Beth sydd gennyf i'w ofni?Ni sylwa'r Goruchaf ar fy mhechodau.”

19. Llygaid dynol y mae'n eu hofni;nid yw'n sylweddoli bod llygaid yr Arglwyddyn ddengmil disgleiriach na'r haul,a'u bod yn canfod holl ffyrdd poblac yn treiddio i'w mannau dirgel.

20. Yr oedd y cyfanfyd yn hysbys iddo er cyn ei greu,fel y mae hefyd ar ôl ei gwblhau.

21. Bydd y dyn hwn yn dwyn ei gosb yn heolydd y ddinas,a chaiff ei ddal mewn man na ddisgwyliodd erioed.

22. Felly y bydd hefyd i'r wraig a adawodd ei gŵrac a ddug etifedd o had dyn arall.

Ecclesiasticus 23