14. Cofia dy dad a'th fampan fyddi'n eistedd ym mysg mawrion,rhag iti dy anghofio dy hun yn eu gŵyddac ymroi i arferion ffôl.Byddai'n dda gennyt wedyn pe bait heb dy eni,a melltithio dydd dy eni y byddi.
15. Y sawl sy'n gynefin â geiriau ceryddgar,ni cheir disgyblaeth arno holl ddyddiau ei fywyd.
16. Y mae dau fath o bobl sy'n amlhau pechodau,a thrydydd math a ddwg ddigofaint arnynt eu hunain.
17. Y mae nwyd gwresog yn llosgi fel tânnas diffoddir nes ei ddifa'n llwyr.Dyn godinebus, yng nghnawdolrwydd ei gorff,nid yw'n ymatal nes i'r tân losgi'n llwyr.I ddyn godinebus melys yw pob bara,ac nid yw'n blino arno nes iddo farw.
18. Y mae'r dyn sy'n sleifio o'i wely ei hunyn dweud wrtho'i hun, “Pwy sy'n fy ngweld?Y mae'n dywyll o'm hamgylch, a'r muriau'n fy nghuddio,ac ni all neb fy ngweld. Beth sydd gennyf i'w ofni?Ni sylwa'r Goruchaf ar fy mhechodau.”