Ecclesiasticus 21:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Diffyg addysg mewn rhywun yw gwrando wrth ddrws,a gwarth annioddefol fyddai i'r deallus.

25. Gwefusau pobl eraill fydd yn traethu'r pethau hyn,ond bydd geiriau'r deallus yn cael eu pwyso mewn clorian.

26. Y mae ffyliaid yn siarad yn lle meddwl,ond y mae meddwl y doeth yn eu siarad.

27. Pan fydd yr annuwiol yn melltithio'r gwrthwynebwr,y mae'n ei felltithio'i hunan.

28. Y mae clepgi'n pardduo'i gymeriad ei hun,ac fe'i caseir yn ei gymdogaeth.

Ecclesiasticus 21