Ecclesiasticus 21:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Y mae gwybodaeth y doeth yn ymledu fel llifddyfroedd,a'i gyngor fel dŵr bywiol y ffynnon.

14. Y mae meddwl y ffôl fel llestr a ddarniwydfel na all ddal unrhyw wybodaeth.

15. Os clyw y deallus air doeth,bydd yn ei ganmol, ac yn ychwanegu ato;ond pan fydd y glwth yn ei glywed, nid yw'n ddiddanwch iddoac fe'i teifl y tu ôl i'w gefn.

16. Y mae ymadrodd y ffôl fel baich ar gefn teithiwr,ond ar wefusau'r deallus ceir hyfrydwch.

Ecclesiasticus 21