Ecclesiasticus 21:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Y sawl nad yw'n glyfar, ni ellir ei hyfforddi,ond y mae yna glyfrwch sy'n lledu chwerwedd.

13. Y mae gwybodaeth y doeth yn ymledu fel llifddyfroedd,a'i gyngor fel dŵr bywiol y ffynnon.

14. Y mae meddwl y ffôl fel llestr a ddarniwydfel na all ddal unrhyw wybodaeth.

15. Os clyw y deallus air doeth,bydd yn ei ganmol, ac yn ychwanegu ato;ond pan fydd y glwth yn ei glywed, nid yw'n ddiddanwch iddoac fe'i teifl y tu ôl i'w gefn.

16. Y mae ymadrodd y ffôl fel baich ar gefn teithiwr,ond ar wefusau'r deallus ceir hyfrydwch.

17. Mewn cynulliad ceisir gair gan rywun call,a dwys ystyrir yr hyn a ddywed.

18. I'r ffŵl y mae doethineb fel tŷ a ddiflannodd,a geiriau diystyr yw gwybodaeth y diddeall.

Ecclesiasticus 21