Ecclesiasticus 2:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Chwi sy'n ofni'r Arglwydd, gobeithiwch am ddaioni,am lawenydd tragwyddol a thrugaredd.

10. Ystyriwch y cenedlaethau gynt a daliwch sylw:Pwy erioed a ymddiriedodd yn yr Arglwydd a chael ei siomi?Neu pwy erioed a arhosodd yn ei ofn ef a chael ei wrthod?Neu pwy erioed a alwodd arno a chael i'r Arglwydd ei ddiystyru?

11. Oherwydd y mae'r Arglwydd yn dosturiol a thrugarog;y mae'n maddau pechodau ac yn achub yn amser cyfyngder.

Ecclesiasticus 2