Ecclesiasticus 2:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe geisiant ryngu ei fodd ef;a'r rhai sy'n ei garu ef, fe'u llenwir â'r gyfraith.

17. Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe baratoant eu calonnau,ac yn ei ŵydd ef fe'u darostyngant eu hunain.

18. “Syrthiwn,” meddant, “i ddwylo'r Arglwydd,ac nid i ddwylo dynol,oherwydd fel y mae ei fawrhydi,felly hefyd y mae ei drugaredd.”

Ecclesiasticus 2