Ecclesiasticus 2:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Gwae'r galon lesg, am nad yw'n credu!Dyna'r rheswm na chaiff gysgod drosti.

14. Gwae chwi sydd wedi colli'r gallu i ymddál!Beth a wnewch pan ddaw'r Arglwydd i ymweld â chwi?

15. Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, nid anufuddhânt byth i'w eiriau ef;a'r rhai sy'n ei garu ef, fe gadwant at ei lwybrau.

16. Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe geisiant ryngu ei fodd ef;a'r rhai sy'n ei garu ef, fe'u llenwir â'r gyfraith.

17. Y rhai sy'n ofni'r Arglwydd, fe baratoant eu calonnau,ac yn ei ŵydd ef fe'u darostyngant eu hunain.

18. “Syrthiwn,” meddant, “i ddwylo'r Arglwydd,ac nid i ddwylo dynol,oherwydd fel y mae ei fawrhydi,felly hefyd y mae ei drugaredd.”

Ecclesiasticus 2