Ecclesiasticus 2:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fy mab, pan fyddi'n nesáu i wasanaethu'r Arglwydd,paratoa dy hun i gael dy brofi.

2. Uniona dy galon a saf yn gadarn,a phaid â bod yn fyrbwyll pan ddaw aflwydd arnat.

3. Glŷn wrtho ef, paid â chefnu arno,er mwyn iti ffynnu yn niwedd dy ddyddiau.

4. Beth bynnag a fwrir arnat, derbyn ef,a bydd yn amyneddgar pan ddaw tro ar fyd i'th ddarostwng;

5. oherwydd trwy dân y caiff aur ei brofi,ac yn ffwrnais darostyngiad y gwneir pobl yn gymeradwy.

6. Ymddiried ynddo ef, ac fe'th gynorthwya;uniona dy lwybrau a gobeithia ynddo.

Ecclesiasticus 2